Crëwyd gan The Stacey Brothers, Jeremy a Paul.
Drymiwr hynod ddawnus yw Jeremy Stacey, y mae hefyd yn hoff o berfformio cerddoriaeth bop, roc, ffync neu jazz. Mae CV Jeremy yn helaeth, gan gynnwys gwaith gydag enwogion fel Tom Jones a The Finn Brothers. Mae Jeremy, a oedd yn ddrymiwr rheolaidd ar gyfer yr eicon o America, Sheryl Crow, am dros 7 mlynedd wedi teithio’r byd (ddwywaith!) gyda’i ffrind Noel Gallagher a’r “High Flying Birds”, ac ar hyn o bryd mae’n un o dri o ddrymwyr sy’n perfformio gyda’r band enwog, King Crimson.
Mae Paul Stacey yn ddawnus wrth ganu’r gitâr a dangosodd ei aml ddoniau yn gynnar yn ei yrfa drwy gyfuno gwaith gyda’r canwr jazz, Claire Martin, a pherfformiadau gydag Oasis, yn ogystal â gweithio gyda Noel Gallagher ar brosiectau amrywiol, fel cerddor a chynhyrchydd, a hefyd ganu’r gitâr gyda Black Crowes, Chris Robinson a The Finn Brothers. Erbyn hyn, mae’n gynhyrchydd a pheiriannydd recordio mawr ei barch, yn ogystal â meistr ar y gitâr, ac ystyrir Paul fel un o gerddorion arweiniol y DU.
Fodd bynnag, mae Jeremy a Paul wedi dod o hyd i amser yn eu hamserlenni prysur i greu’r deyrnged hon i’r band semenol o UDA, Steely Dan. Mae’r grŵp hwn, a sefydlwyd ar y cyd gan Walter Becker a Donald Fagen ym 1972, yr oedd y ddau gerddor hyn yn aelodau craidd ohono, wedi cynhyrchu cyfres o albymau eiconig gan gynnwys The Royal Scam, Aja a Gaucho. Ar gyfer y gig heno, mae Jeremy a Paul wedi rhoi band 14 aelod o’r radd flaenaf at ei gilydd i berfformio detholiad o ganeuon diamser gan Steely Dan. Bwriadwyd i’r gig fod yn deyrnged i’r band, ond ers ei sefydlu mae hefyd wedi dod yn deyrnged i gyd-sylfaenydd Steely Dan, Walter Becker, a fu farw yn 2017.
Mae Cyngor Abertawe’n falch o gyflwyno Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe mewn partneriaeth â Chlwb Jazz Abertawe.
Gweld digwyddiadau Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe eraill yma