fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae un o ddigwyddiadau cerddoriaeth a theuluol mwyaf poblogaidd Cymru – Proms yn y Parc BBC Cymru Wales – yn dychwelyd i Barc Singleton ddydd Sadwrn 14 Medi.

Bydd Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn perfformio amrywiaeth o ganeuon adnabyddus o fyd ffilm a theledu, a hefyd rhai darnau clasurol a chaneuon Cymreig traddodiadol. Bydd gwesteion arbennig, sydd i’w cyhoeddi’n fuan, yn ymuno â hwy ar y llwyfan ar gyfer noson wefreiddiol o gerddoriaeth.

Mae’r Proms yn y Parc yn rhan o benllanw nodedig blynyddol deufis o greu cerddoriaeth ym Mhroms y BBC, wrth i ddathliadau byd-enwog y Noson Olaf atseinio o’r Albert Hall yn Llundain ac wrth i filoedd o bobl ddod at ei gilydd mewn lleoliadau ledled y DU i fod yn rhan o hud y Noson Olaf.

Dyddiad
14 MED 2019
Lleoliad
Singleton Park, Swansea