fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Ewch i mewn os ydych yn ddigon dewr!

Gyda channoedd o flynyddoedd o hanes arswydus, nid yw cestyll ar gyfer y gwangalon – yn enwedig yn ystod y nos – ac fel pob castell sy’n werth ei halen, mae gan Gastell Ystumllwynarth ei ysbryd ei hun.

Gan droedio’n ofalus, gallwch lywio’ch ffordd drwy gromgelloedd a choridorau hynafol Castell Ystumllwynarth o’r 12fed ganrif – beth sydd oddi tanoch neu’n aros amdanoch o gwmpas pob cornel? Wedi’i ysbrydoli gan y ffilmiau mwyaf arswydus a’r creadigaethau mwyaf dychrynllyd, pwy â ŵyr pa fath o ysbrydion annymunol neu gymeriadau bwganllyd y gallech gwrdd â nhw – ydych chi’n ddigon dewr i gael gwybod?
Beth bynnag y gwnewch chi, peidiwch â tharfu ar yr Arglwyddes Wen!

Mae pethau rhyfedd yn digwydd mewn hen gestyll…

Mae 4 slot amser ar gael rhwng 5.30pm a 10.15pm.
Bydd y profiad yn cymryd tua 25 munud.
Gallwch gyrraedd unrhyw bryd o fewn y slot amser rydych wedi’i archebu, ond byddwch yn barod i aros eich tro – caiff pobl fynd i mewn bob cwpl o funudau.

Yn addas i blant 12+ oed | Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn
Oedolion – £13 (gan gynnwys y ffi archebu)
Consesiynau 12-16 Oed £11 (gan gynnwys y ffi archebu)
PTL ar-lein- £7.50 (gan gynnwys y ffi archebu)
Tocyn grŵp o 5 – £55 (gan gynnwys y ffi archebu)
Daw’r cyfle i archebu ar-lein i ben am 4.30pm ddydd Llun 31 Hydref, ond peidiwch â digalonni, bydd nifer cyfyngedig o docynnau ar werth yn y Castell o 5pm!

Mae’n frawychus, felly byddwch yn wyliadwrus….
Yn addas i blant 12+ oed | Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Bydd y profiad yn cynnwys goleuadau strôb/laser, peiriannau mwg, lleoedd bach gydag ychydig iawn o olau, lloriau anwastad (gwisgwch esgidiau addas), rhai grisiau serth a choridorau cul oherwydd natur y lleoliad, effeithiau aroglau, synau/cerddoriaeth arswydus ac actorion byw a fydd yn ceisio’ch dychryn, ond ni fyddant yn eich niweidio!

Mae croeso i chi gysylltu â’r lleoliad os oes gennych unrhyw gwestiynau am addasrwydd y digwyddiad i chi/eich teulu – info@halloweenatthecastle.co.uk
Swyddfa Docynnau swansea.grandreservations@swansea.gov.uk

Fe’i cyflwynir i chi mewn cydweithrediad â Chyfeillion Castell Ystumllwynarth.

Dyddiad
31 HYD 2022
Lleoliad
Castell Ystumllwynarth