Yn cynnwys:
“Fel perfformiwr ond hefyd fel tad i ddau o bobol ifanc, dwi’n teimlo mor hapus a balch for Amgueddfa’r Glannau yn agor eu gofod i ddigwyddiad Pride LHDTC+. Mae’n golygu fod pawb yn medru dathlu’n gwahaniaethau a’r hyn sy’n ein uno, a theimlo bo croeso ym mhob fath o ofod. Dwi’n teimlo’r gobaith mwyaf am y dyfodol wrth weld teuluoedd yn dod i ddathlu, wrth feddwl am y genhedlaeth nesa’n tyfu fyny’n teimlo’r hyder i fod pwy ydyn nhw a mynegu’u hunain yn agored, i gefnogi a pharchu eu hunaniaeth nhw a’r bobol o’u cwmpas. Gan Alun a gan Connie Orff xx”
Byddwch yn ymwybodol bod y digwyddiad hwn yn dathlu PRIDE Abertawe, a gofynnwn i chi ddangos parch a goddefgarwch fel y gall pawb fwynhau’r digwyddiad.
Ni fydd ymddygiad ymosodol neu sarhaus yn cael ei oddef ac efallai y gofynnir i chi adael ein hamgueddfa.
Gallwch weld y digwyddiadau eraill a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yma
19 Mai 2024
12:00pm - 15:00pm