fbpx
Cymerwch gip ar beth sy'n digwydd ym Mae Abertawe...
Rhagor o wybodaeth...

Peter Pan – Y sioe gerdd i deuluoedd y mae disgwyl mawr amdani, wedi’i chyflwyno gan Immersion.

Mae Immersion Theatre yn eich gwahodd i hedfan i Neverland wrth iddynt gyflwyno’u sioe fwyaf hudol hyd yma – Peter Pan! Paratowch i feddwl am bethau hapus a hedfan fri wrth i Peter direidus fynd ar antur fawr – bydd yn cyflwyno plant y teulu Darling i’r bechgyn coll, Tinkerbell, Smee hynod ddoniol a llu o gymeriadau cyffrous eraill cyn wynebu’r dihiryn mwyaf dychrynllyd erioed – yr anfad Captain Hook!

Mae’r sioe gerdd hynod ddoniol hon am y bachgen nad oedd erioed wedi tyfu i fyny yn cynnwys cerddoriaeth gofiadwy, digonedd o gyfleoedd i ryngweithio â’r gynulleidfa, sgript ddifyr iawn a’r cyfle i gwrdd â’r cymeriadau ar ôl y sioe, ac mae’n addo diddanu pob aelod o’r teulu… felly peidiwch â cholli allan!

Yn addas i’r rheini dros 4 oed / Genre: Sioe gerdd

Tocynnau

Oedolyn – £15

Consesiwn* – £13

Plentyn – 7.50

Teulu – £42.00 (2 oedolyn a 3 blentyn)

*Dan 16 oed, dros 60 oed a myfyrwyr a chanddynt gardiau adnabod.
Bydd y rheini dan 3 oed ac yn iau

Llogi Cadair Gynfas – £2.50

Noddwr swyddogol – holidaycottages.co.uk

Holiday Cottages - Official Sponsor of Outdoor Theatre at Oystermouth Castle

Dyddiad
07 AWS 2024
Lleoliad
Castell Ystumllwynarth