Ymunwch â Peppa, gyda’i theulu a’i ffrindiau wrth iddynt fynd i’r sŵ a hefyd y traeth ar gyfer parti arbennig – mae’n sicr o fod yn ddiwrnod cyffrous llawn hwyl.
Byddwch yn barod i ganu a dawnsio gyda bwganod brain lliwgar, bwydo’r pengwiniaid, adeiladu cestyll tywod mawr a hyd yn oed nofio yn y môr!
Gyda digonedd o ganeuon, dawnsio a phyllau mwdlyd, mae Peppa’s Fun Day Out yn sicr o wneud i bawb sy’n dwlu ar Peppa chwerthin, ac mae’n gyflwyniad perffaith i’r theatr.
Credyd llun: Barry Rivett