Cyfle prin i weld locomotif stêm ardderchog Penydarren ar daith wrth iddo gael ei danio a’i yrru ar hyd y cledrau. Dysgwch ragor am hanes Penydarren yn Locomotif stêm Richard Trevithick
Ar 21 Chwefror 1804, teithiodd y locomotif hwn ar hyd y dramffordd 9 milltir o Benydarren i Abercynon, gan dynnu llwyth o ddeng tunnell o haearn a tua saithdeg o bobl a lwyddodd i fachu taith answyddogol! Gellir dod i’r digwyddiad hwn am ddim ac mae’n addas ar gyfer yr holl deulu. Sylwer bod y digwyddiad hwn yn dibynnu ar y tywydd.
Gallwch weld y digwyddiadau eraill a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yma
11 Mai 2024
12:00pm - 15:00pm