Penwythnos Syrffio ac Ioga i Fenywod ym Mhenrhyn Gŵyr
30/06/2017 – 02/07/2017
Rydym yn cynnal penwythnos syrffio ac ioga i fenywod yn Llangynydd ar draeth Hillend. Croesewir menywod o bob oedran a gallu (er ei fod yn hanfodol eich bod yn GALLU NOFIO 50M a’ch bod yn gyfforddus yn y dŵr, byddwch o fewn eich dyfnder yn y môr).
Bydd y penwythnos yn cynnwys llety am 2 noson mewn tŷ hunanarlwyo hyfryd yn Llangynydd, 2 wers syrffio gydag Ysgol Syrffio Progress (gan gynnwys yr offer) a 2 sesiwn ioga gyda Breath of Life Yoga. Bydd lleoedd yn brin felly sicrhewch eich bod yn cadw’ch lle!
Os nad ydych wedi syrffio o’r blaen, neu os ydych am wella’ch sgiliau, bydd hwn yn gyfle gwych i chi wneud hynny a chael llawer o HWYL.
Cysylltwch â @letzshare ar Facebook os oes gennych unrhyw ymholiadau!
Atlantic Haven, Llangynydd: