fbpx

 
Mae amrywiaeth o bethau i’r teulu cyfan eu gwneud ar noson mas yng nghanol dinas Abertawe, a chynlluniwyd Penwythnos Mawr Abertawe er mwyn eich cyflwyno iddynt i gyd! Mwy o Gwybodaeth

Bydd perfformiadau theatr, marchnadoedd stryd, ffilmiau, cerddoriaeth a digwyddiadau, cynigion bwytai, dawns, gemau, comedi, gweithgareddau chwaraeon a llawer mwy! A chan mai Abertawe yw’r unig le yng Nghymru sy’n gallu chwifio’r faner borffor, gellir sicrhau y byddwch yn mwynhau noson mas ddiogel a difyr pryd bynnag rydych chi’n ymweld â’r ddinas!

Gŵyl Ymylol Abertawe
Fel ffenics yn codi, mae Gŵyl Ymylol Abertawe’n dychwelyd eleni. I ddechrau penwythnos cyntaf Gŵyl Ryngwladol Abertawe, bydd yr Ŵyl Ymylol yn cynnig rhai o ddoniau gwahanol a gorau Cymru – comedi a cherddoriaeth, barddoniaeth a drama – yn fyw mewn lleoliadau ar y Stryd Fawr, Stryd y Castell a thu hwnt.

Ar ôl gormod o amser, mae wedi dychwelyd, yn fwy ac yn well nag erioed – gyda nifer enfawr o ddigwyddiadau arbennig mewn lleoliadau ar y Stryd Fawr a Stryd y Castell.

Gŵyl Ymylol Abertawe – 29 a 30 Medi 2017 – gwnewch nodyn yn eich dyddiadur NAWR! Ni fyddwch eisiau colli’r hwyl

Facebook /FringeSwansea

Twitter @FringeSwansea

Yn y Pwll The Pit | Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 29-30 Medi | Yn gynnar tan yn hwyr | Rhaid cael tocyn
“Dau ddiwrnod o’r roc, pop a cherddoriaeth wahanol orau y gallwch ddod o hyd iddi yn yr ardal hon.”

Awr Gomedi’r Wylan Enfawr Bar Bach Gwesty’r Grand | Nos Sadwrn 30 Medi | 7.30-8.30m | Rhaid cael tocyn
“Awr o gomedi fympwyol, llawn egni gyda’r digrifwyr John Collins, Conor Clarke McGrath ac Eleri Morgan.”

Cyfansoddwyr yn yr Ŵyl Ymylol #1 Copper Bar | Nos Wener 29 Medi | Dechrau am 6.30pm | Rhaid cael tocyn
“Yn nigwyddiad cyntaf Cyfansoddwyr yn yr Ŵyl Ymylol, ymunwch ag Emi McDade, Aled Rheon ac Eleri Angharad wrth iddynt gyflwyno’u crefft a’u caneuon i chi.”

Weird and Wired Caffi TechHub | Nos Wener 29 Medi | Dechrau am 5.00pm | Rhaid cael tocyn
“Profwch fyd od a rhyfeddol Cerddorfa Gliniaduron Abertawe wrth iddynt arwain noson o gerddoriaeth arbrofol sy’n gwthio ffiniau yng Nghaffi TechHub.

Byd Wisgi Cymreig Caffi TechHub | Nos Sadwrn 30 Medi | 5.00-6.00pm (Sesiwn Gyntaf)/6.30-7.30pm (Ail Sesiwn) | Digwyddiad Premiwm
“Ymunwch â’r arbenigwr wisgi ei hun, Adam Sillman, wrth iddo’ch dysgu am y wisgis Cymreig gorau a mwyaf unigryw. Nodwch, dylech gysylltu â joe@swanseafestival.org ar ôl prynu tocyn premiwm er mwyn cadw sedd yn y digwyddiad hwn.”

Mae Radio U & I yn Cyflwyno Prif Far Gwesty’r Grand | Dydd Sadwrn 30 Medi | Trwy’r dydd | Mynediad am ddim
“Prynhawn a noson gyfan o artistiaid acwstig ac ensembles bach wedi’u trefnu gan glust dda Big Scott a Radio U & I.”

Mae tocynnau cynnar ar gael gan Eventbrite yma.

Dyddiad
29-30 MED
Lleoliad
Swansea City Centre