Date/Time:
Date(s) – 03/08/2017 – 06/08/2017
12:00 pm
Location: Museum Park
Gweler y wefan am amserau agor
Pan fydd y diwrnodau’n hwy a’r haul yn tywynnu unwaith eto, mae’n bryd cynnal yr Ŵyl Bentref Almaenaidd.
Mae’r Ŵyl Gwrw yn golygu llawer mwy na chwrw’n unig! Dros benwythnos hir, gallwch gael llawer o hwyl a bod yn rhan o awyrgylch gwych i’r teulu cyfan.
Byddwch yn darganfod Pentref Almaenaidd gyda chabanau pren sy’n gwerthu bach o bopeth, o Bratwurst i gynnyrch Almaenaidd dilys. Yn yr ardd gwrw awyr agored gallwch fwynhau stein gyda’n 3 chwrw Almaenaidd i’w blasu. Yn yr ardal ddifyr gallwch fwynhau amser gwych gyda’ch plant drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyl Almaenaidd.
Yn y nos, dylech ddod i’r babell ŵyl Fafaraidd sy’n cynnwys sioe DJ Almaenaidd, llawr dawnsio a gweinyddion sy’n gwisgo llodrau lledr a dirndl. Wrth eistedd ar y rhesi hir o feinciau traddodiadol gallwch fwynhau cwrw a golwyth cig llo – gwelwn ni chi’n fuan!
Gardd Gwrw
Mwynhewch gwrw Bafaraidd ffres yng ngwres yr haul. Eisteddwch yn ein hardd a mwynhewch y teimlad o eistedd yn yr Alpau am awr neu ddwy – yn y cefndir gallwch glywed cerddoriaeth Oomph. Galwch heibio am amser gwych!
Bwyd Almaenaidd
Yn yr ŵyl byddwn yn cynnig amrywiaeth o fwydydd o’r Almaen ac Awstria er mwyn sicrhau eich bod yn cael blas ar y ffordd Tyrolaidd o fyw. Sicrhewch eich bod yn mwynhau’ch bwyd gyda gwydraid o gwrw Bafaraidd a wnaed â llaw.
Pabell Ŵyl Fafaraidd
Yn ystod y nos (a phrynhawn dydd Sadwrn), beth am roi cynnig ar ddathlu fel y Bafariaid? Bydd ein sioe DJ yn gwneud i chi ddawnsio ar y meinciau neu ar ein llawr dawnsio. Mwynhewch stein o gwrw wrth i chi ganu Anton aus Tirol neu 500 miles. Dewch â’ch ffrindiau, eich cydweithwyr neu’ch cwsmeriaid a chadwch le am noson mas.
Mae’r Ŵyl Gwrw Almaenaidd yn cynnwys sawl ardal wahanol. Gallwch gael mynediad am ddim i’r rhan fwyaf ohonynt heb docyn. Rhaid prynu tocyn ar gyfer y Babell Ŵyl Fafaraidd ac mae lleoedd yn gyfyngedig, felly archebwch eich tocynnau nawr!
Gŵyl Gwrw:
Mynediad Cyffredinol Am Ddim: yn cynnwys mynediad i’r digwyddiad gan gynnwys y Pentref Almaenaidd, yr Ardd Gwrw a’r Ardal Ddifyr, oni bai am y Babell Ŵyl Fafaraidd. Nid oes angen cadw tocyn ymlaen llaw.
Pabell Ŵyl Fafaraidd (Argaeledd Cyfyngedig):
Tocyn Pabell Arbennig Cyfyngedig £5: yn cynnwys sedd gadw yn y Babell Ŵyl Fafaraidd (seddi gyda’i gilydd) a hanner peint o Gwrw’r Ŵyl.
Tocyn Cwrw £20-£25: yn cynnwys sedd gadw yn y Babell Ŵyl Fafaraidd (seddi gyda’i gilydd), un stein (2 beint) o Gwrw’r Ŵyl a phlât o fwyd blasus gyda chyw iâr Bafaraidd ac Underberg (digestif). Gyda thocyn gallwch gael mynediad i ran y digwyddiad sydd am ddim hefyd.
Tocyn VIP £30-£35: yn cynnwys mynediad VIP blaenoriaeth a sedd gadw yn ardal VIP y Babell Ŵyl Fafaraidd gydag 1 gwydraid o Schlumberger sekt, Stein (2 beint) o gwrw (gallwch ddewis o Weißbier Bafaraidd, Festbier Bafaraidd neu Craftbier Bafaraidd), plât o fwyd blasus gyda chyw iâr Bafaraidd ac Underberg (digestif).
Am fwy o wybodaeth ewch i swansea.bierfest.co.uk