Mae Band Pres Pen-clawdd (sylfaenydd ac arweinydd Tony Small) yn cyflwyno ei Gyngerdd i nodi 50 mlynedd, gyda’r gwesteion, Côr Meibion Pontarddulais (dan arweiniad Clive Phillips).
Bydd Llywydd y band, Syr Karl Jenkins, yn arwain y perfformiad cyntaf o’i gyfansoddiad newydd i nodi achlysur arbennig y band.
Bydd dau gyn-aelod sydd wedi derbyn clod mawr fel cerddorion proffesiynol yn arddangos eu doniau cerddorol: Gareth Small (Prif Drwmpedwr Cerddorfa Hallé) a’r trwmpedwr Jazz, Andy Davies, (Clwb Jazz, Ronnie Scott, Llundain).
Bydd y Soprano lleol adnabyddus, Ros Evans, yn ymuno â nhw.
Cerddor dawnus iawn arall o Abertawe, Mal Pope, fydd Meistr y Seremonïau.
Categories
Cerddoriaeth Glasurol
Cyngerdd