Mae Adrian yn dod â’i bumawd penigamp i chwarae detholiad o ddarnau safonol a ysbrydolwyd gan glarinetwyr gorau New Orleans fel Barney Bigard, Sidney Bechet ac Edmond Hall.
Mae Adrian bellach yn byw yn Sweden ac mae’n gerddor sydd ar ei orau ar hyn o bryd. Mae’n feistr ar nodweddion ac arferion unigryw cerddoriaeth jazz New Orleans gyda’i wybodaeth gyfoethog am hanes y ddinas a’i chlarinetwyr mwyaf adnabyddus.
Fel perfformiwr, mae gan Adrian y gallu i ymgysylltu â’i gynulleidfa ac mae ganddo ymdeimlad digyffelyb â’r gerddoriaeth sydd, ar y cyd â’i dechneg feistrolgar, wedi arwain at ganmoliaeth eang gan y beirniaid, gan gynnwys Time Out a ddatganodd mai ef oedd “dyn cyrs mwyaf carismatig Llundain.’
Mae Cyngor Abertawe’n falch o gyflwyno Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe mewn partneriaeth â Chlwb Jazz Abertawe.
Gweld digwyddiadau Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe eraill yma