Ym 1984 cafodd Paul Simon ei swyno gan gasét anghyfreithlon o gerddoriaeth maestrefi De Affrica. Teithiodd i Johannesburg a threuliodd bythefnos yn recordio gyda cherddorion De Affrica. Y sesiwn hon oedd y sail ar gyfer ei seithfed albwm unigol a’r un mwyaf llwyddiannus yn fasnachol, Graceland. Gyda chymysgedd eclectig o genres megis pop, roc, acappella, mbaganga a zydeco, mae’r albwm a enillodd wobr Grammy bellach yn cael ei ystyried yn un o’r albymau gorau erioed.
Ymunwch â ni am noson arbennig i ddathlu dros 30 o flynyddoedd ers rhyddhau’r albwm arloesol hwn. Seren y sioe fydd y cerddor Americanaidd a’r Youtuberenwog, Josh Turner Guitar fel Paul Simon a bydd lleisiau grymus ac atgofus y South African Cultural Gospel Choir,côr talentog ac unigryw o’r DU, yn ymuno ag ef ar y llwyfan ynghyd â band byw llawn.
Gyda chaneuon eiconig megis You Can Call Me Al a Diamonds On The Soles Of Her Shoes, nid yw’r gyngerdd hon yn un i’w cholli!