fbpx

Mae Paul bob amser wedi bod yn ddyn nad yw’n ofni anhrefn. Pan oedd yn tyfu i fyny roedd pobl yn aml yn ei gyhuddo o fod â’i feddwl ymhell.

Gan ei fod wedi’i ddiagnosio’n ddiweddar ag ADHD, does dim rhyfedd nad yw wedi gweld pethau’n union fel y maent.

A nawr mae Paul yn cwestiynu ei le yn y byd hwn sy’n llawn dryswch nad yw i bob golwg wedi’i greu ar gyfer pobl fel fe. Fel tad newydd, mae’n dysgu drwy brofiad nad yw cael rhywbeth sy’n mynnu ei sylw, hyd yn oed pan nad yw’n gallu canolbwyntio, yn hawdd. Eto, yn y byd difrifol iawn hwn, mae Paul yn rhoi dadl dros y ffaith y dylem, bob hyn a hyn, fod yn bell ein meddwl, wrth iddo gludo cynulleidfaoedd i fyd llawn mympwyon.

Mae Paul wedi ymddangos ar Harry Hill’s Nite Club ar Channel 4 a hefyd ar sioe sgets arobryn BBC Radio 4, Please Use Other Door.Cafodd ei enwebu ar gyfer y sioe newydd orau yn ystod Gŵyl Gomedi Caerlŷr yn 2017, ac enillodd wobr Act Newydd y Flwyddyn yng ngwobrau Hackney Empire yn 2013. Fel actor ac awdur, mae wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau comedi byr sydd wedi derbyn clod gan feirniaid ac ennill gwobrau mewn nifer o wyliau fel cydweithiwr tymor hir â’r cyfarwyddwr sydd wedi cael ei enwebu am wobr BAFTA dwywaith, Ben Mallaby. Maent wedi cydweithio ar gyfer ffilmiau fel Milk, Battlecock! a Guilt Trip a dewiswyd ei ffilm ddiweddaraf Bleepgan Ben Hyland ar gyfer nifer o wyliau ffilm sy’n gymwys ar gyfer gwobrau BIFA a BAFTA.

Sefydlwyd y deuad sgets Short & Curly gyda’i wraig, Rebecca Shorrocks, sydd wedi cael llwyddiant beirniadol yn ystod Gŵyl Ymylol Caeredin yn ogystal â chael ei enwebu ar gyfer yr Act Gymeriad neu Sgets orau yn ystod Gwobrau Chortle.

 

Archebwch Docynnau 

Dyddiad
17 Mai 2024
Lleoliad
Theatr Y Grand Abertawe
Price
11.00
Archebwch docynnau