Ymunwch â ni ar ddydd Sul y 9fed o Fehefin yn dilyn y brif ŵyl yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i orffen y penwythnos mewn steil.
Ers dod i’r amlwg o gymoedd heulog Cymru, mae Melin Melyn wedi syfrdanu gwrandawyr yn gyson gyda’u cyfuniad unigryw o surf-rock, gwerin a phop seicedelig sydd wedi eu gosod ar wahân i bron pob band cyfoes arall ac sydd wedi arwain at gymariaethau haeddiannol â Super Furry Animals a Gorky’s Zygotic Mynci.
Roedd eu gig olaf yn The Bunkhouse wedi gwerthu mas, felly gwnewch yn siŵr i fachu eich tocynnau’n gyflym!
Drysau’n agor am 6pm. £11.75 y person, yn cynnwys ffioedd.
09 MEH 2024
18:00pm