Date/Time:
Date(s) – 18/04/2017 – 20/04/2017
10:30 am – 4:00 pm
Location: Plantasia
Sioeau Anifeiliaid Rhyngweithiol Ymarferol
4 sioe y dydd: 10.30am, 12.00pm, 2.00pm a 3.15pm
Dewch i fwynhau profiad unigryw Plantasia dros wyliau’r Pasg yn un o’n sioeau anifeiliaid rhyngweithiol cyffrous ac addysgol.
Houston mae gennym broblem!…Mae pryf glas sy’n bwyta planhigion ar ei ffordd i Plantasia…rhaid i ni ddod o hyd i ateb yn gyflym!
Ymunwch â’n Tîm Creu Bwystfilod a’n helpu i ddylunio ein bwystfil newydd ein hunain i drechu’r broblem – Mae eich angen chi ar Plantasia!
Peidiwch â cholli’r cyfle i gwrdd â rhai o reolwyr plâu a datryswyr problemau gorau byd natur gan gynnwys chwilod du, nadroedd miltroed, sgorpionau, finegarwniaid, tarantwlaod, gecoaid, sgincod, nadroedd a madfall fonitor!
£4.50 i blant | £5.50 i oedolion
(Plant dan 18 mis am ddim)
Rhaid cadw lle | Ni ellir ad dalu pris tocynnau
www.ticketsource.co.uk/plantasia
01792 474555