fbpx

Yn dilyn llwyddiant ysgubol sioe ‘Jukebox Heroes’Owen Money yn 2016 ac yna ‘Jukebox Heroes II’ in 2018, ynghyd â’r drydedd yn y gyfres yn 2021, mae Owen yn ôl gyda sioe fyw arall yn llawn talent gyda cherddoriaeth ei sioeau radio penwythnosol poblogaidd ar BBC Wales; ac wrth gwrs ei arddull gomedi unigryw a’i ffraethineb Cymreig!

Ydych, ‘dych chi’n gywir, dyma ‘Owen Money’s Jukebox Heroes IV’! Fodd bynnag, y bedwaredd yn y gyfres fydd yr un olaf!

I ddiweddu’r gyfres theatr hynod boblogaidd hon sydd wedi difyrru cynulleidfaoedd llawn ledled Cymru, byddwn unwaith eto’n gweld Owen ar lwyfan gyda’i fand byw gwych, dan arweiniad y cyfarwyddwr cerdd, Ian Kimber, a fydd yn cyfeilio i deyrngedau trawiadol i rai o enwogion y byd cerddoriaeth.

Bydd merched ‘Like ABBA’, yn canu gydag Owen a’i fand ac yn adfywio caneuon poblogaidd y grŵp enwog, fel ‘Money, Money, Money’ sy’n addas iawn!

Atgynhyrchir seiniau digamsyniol ac eiconig Phil Collins gan lais anhygoel James Alexander.

Cewch eich cyfareddu hefyd wrth i Katie Mittell oleuo’r llwyfan mewn teyrnged  gwbl unigryw i’r enillydd gwobr Grammy enwog, Cher.

Yn olaf, allech chi ddim cael cyfres Jukebox Heroes heb dalu teyrnged i’r cyfnod pan oedd y Wurlitzers yn canu caneuon roc a rôl! Paratowch i gael eich syfrdanu wrth i Darren Graceland Jones bortreadu un o ffigurau mwyaf eiconig yr 20fed ganrif, Brenin Roc a Rôl Roll…Elvis Presley!

 

Archebwch Docynnau

Dyddiad
27 EBR 2024
Lleoliad
Theatr Y Grand Abertawe
Price
24.00