Mae gwyliau’r Pasg bron yma felly ymunwch â ni yn Oriel Science wrth i ni archwilio athropodau sef anifeiliaid â chymalau yn eu coesau ond dim esgyrn!
Galwch heibio i ddylunio eich pryf eich hun neu crëwch westy trychfilod yn ein Cornel Wyddoniaeth. Chwiliwch am y cliwiau sydd wedi’u cuddio o amgylch y lleoliad i ddatgelu enw’r ‘Pryf’ i gymryd rhan yn ein raffl ac ennill ‘Gêm Chwilod’.
Rydym ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Sadwrn 1 Ebrill tan ddydd Mercher 5 Ebrill ac o ddydd Mercher 12 Ebrill i ddydd Sul 16 Ebrill.