Dydd Mercher , 27 Mawrth
Sesiwn 1: 11:00 – 12:00
Sesiwn 2: 14:00 – 15:00
Dydd Mercher 3 Ebrill
Sesiwn 3: 11:00 – 12:00
Sesiwn 4: 14:00 – 15:00
Wedi’ch ysbrydoli gan ein ‘harddangosfa Eich Cymdogaeth Berffaith’, rydym yn eich herio i ddod i weld a allwch chi adeiladu’r tŵr uchaf gan ddefnyddio spaghetti a malws melys. Allwch chi greu eich Tŵr Eiffel eich hun, neu Dŵr Pisa?
Ar ôl y gweithdy, gallwch chi adeiladu eich cymdogaeth berffaith a dangos i ni ble i roi eich tŵr. Mae eich cyfranogiad yn helpu ein hymchwilwyr i gasglu data gwerthfawr er mwyn nodi pa rannau o’n cymdogaethau sy’n ein helpu i fod yn iach. Gyda’ch cymorth chi, gallwn roi tystiolaeth i’r llywodraeth, llunwyr polisi a chynllunwyr i’w helpu nhw i greu cymunedau mwy iach a hapus.
Cadwch eich lle am ddim
https://www.orielscience.co.uk/general-5-3