fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Bale trawiadol sy’n dathlu’r Nadolig. Cerddoriaeth gan Tchaikovsky.

Wedi’i gyflwyno gan Dŷ Opera a Bale Gwladol Rwsia, sy’n cynnwys cerddorfa fyw â thros 30 o gerddorion.

Ni fyddai’r Nadolig yr un peth heb daith i Theatr y Grand Abertawe i weld cynhyrchiad syfrdanol o fale enwocaf y byd – The Nutcracker.

Cwympiadau eira, losin, tywysogion, hudoliaeth a chariad yw rhai o’r elfennau sy’n cael eu cyfuno gan y cwmni enwog hwn o Rwsia. Mae’n bale sy’n addas i bawb gyda digonedd o gerddoriaeth gyfarwydd, fel Waltz of the Flowers a Dance of the Sugar Plum Fairy.

Ffefryn tragwyddol y tymor yw The Nutcracker sydd wedi’i gyfarwyddo a’i goreograffu gan Konstantin Uralsky, cyn-unawdydd arobryn y Bale Bolshoi.
Mae’r bale hwn yn parhau i swyno cynulleidfaoedd o bob cenhedlaeth ledled y byd. Mae’n ddarn hudolus o theatr, yn gyflwyniad gwych i fale ac yn parhau i apelio at y rhai sydd eisoes yn dwlu arno.

Dyddiad
13 TACH 2019
Lleoliad
Swansea Grand Theatre