Cefn gwlad Suffolk, Lloegr 1759. Wrth i’r wlad ddisgwyl am gomed Halley, mae merch ifanc yn wynebu’r grocbren am lofruddiaeth erchyll. Mae’n honni ei bod yn feichiog, felly mae rheithgor o 12 o wragedd yn gorfod rhoi’r gorau i’w dyletswyddau gwaith tŷ i ganfod a yw’n dweud y
gwir neu ai osgoi’r rhaff yw ei bwriad. Dim ond y fydwraig Lizzy Luke sy’n barod i amddiffyn y ferch, a gyda’r dorf orffwyll am waed y ferch ifanc, mae aelodau’r rheithgor yn gorfod ymgodymu â’u hawdurdod newydd â’r diafol yn eu plith.
Stori ias a chyffro afaelgar gyda Maxine Peake a Ria Zmitrowicz.