fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

 
Wedi’i leoli mewn cwch sy’n symud trwy’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol, mae Nowhere Less Now 7, yn ymestyn dros ddwy ganrif o fordwyo, mudo ac ysbeilio, yn dilyn ôl traed perthynas a fu’n hwylio ar draws y moroedd yn y Llynges Fasnachol dros gan mlynedd yn ôl. Wedi iddi ddarganfod ei arysgrif ar goeden hynafol baobab ar yr ynys Affricanaidd, Zanzibar, mae Lindsay Sheers yn cysylltu straeon personol unigolion a gafodd eu llusgo gan gerhyntau hanesion byd-eang. Mae’r fersiwn hon o’r gwaith sy’n datblygu’n barhaus, yn plethu stori’r oriel ei hunan ag un ei sylfaenydd, Richard Glynn Vivian, a hanes morol Abertawe yn y gwaith clodwiw hwn.

Mae Nowhere Less Now yn rhan o’r Casgliad Artangel, menter i ddod â gwaith ffilm a fideo neilltuol, sydd wedi ei gomisiynu a’i gynhyrchu gan Artangel, i orielau ac amgueddfeydd ar draws y DU. Mae’r Casgliad Artangel wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â Tate ac fe’i cefnogir yn hael gan Ymddiriedolaeth Esmeé Fairbairn a Foyle, ac mae’n defnyddio cyllid cyhoeddus gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.
 
Oriel Gelf Glynn Vivian
 

Dyddiad
15 HYD 2016 - 19 MAW 2017
Lleoliad
Glynn Vivian Gallery