fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Gŵyl celfyddydau flynyddol yw Do Not Go Gentle a gynhelir yn ninas enedigol Dylan Thomas ers 2011. Ein nod yw cynnig gŵyl y gallai Dylan fod wedi’i hoffi ac ydy, mae hynny’n cynnwys cwrw, ond hefyd mae’n cynnwys lleoliadau cartrefol sy’n llawn awyrgylch, perfformwyr gwych a phobl Abertawe, a’i hysbrydolodd i ysgrifennu’n gyntaf gynifer o flynyddoedd yn ôl.

Ceir amrywiaeth helaeth o gerddoriaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg, comedi, y gair llafar a ffilmiau. Mae prif berfformwyr blaenorol wedi cynnwys Rhys Ifans, Jo Brand, Arthur Smith, John Hegley, Phil Kay, Atilla the Stockbroker, Murray Lachlan Young, Kevin Allen, Luke Wright, Mike Garry, Jeff Towns ac Andrew Sinclair.

2017 yw ein 6ed flwyddyn ac rydym yn dathlu drwy symud ymhellach i mewn i ganol y ddinas nag erioed o’r blaen, gyda lleoliadau mwy a thîm newydd sbon wrth law. Mae wedi bod yn brofiad bendigedig. Rydym yn falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni ac yn gyffrous am y blynyddoedd i ddod, ond yn fwyaf oll rydym yn gobeithio bod Dylan yn gwenu ac yn codi gwydryn i’r hyn rydym wedi’i wneud yn ei enw …

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y perfformwyr, y lleoliadau a thocynnau drwy fynd i’r <a href=”http://donotgogentlefestival.co.uk/”>wefan</a>.

Dyddiad
03-04 TACH
Lleoliad
Various venues