I gyd-fynd â dyddiadau’r prif berfformiad, mae gŵyl fach, sef ‘penwythnos celf’ estynedig – ‘Nawr am Fwy’ – sy’n cynnwys holl sefydliadau diwylliannol bach a mawr y ddinas. Yn ei ffordd ei hun, bydd pob un yn ymateb i’r prif themâu – Paneli’r Ymerodraeth Brydeinig ac etifeddiaeth y Rhyfel Byd Cyntaf ac effaith rhyfel ac ymladd ar berthnasoedd dynol.
Bydd Nawr am Fwy yn cynnwys digwyddiadau arbennig untro, arddangosfeydd, sgyrsiau artist, gweithgareddau a llwybrau i deuluoedd, gwaith celf cyhoeddus, gweithdai a pherfformiadau gan artistiaid cyfoes gwych mewn nifer o leoliadau ar draws Abertawe.
Y Munitionettes a’r Canary Girls
01/09/2018 – 01/12/2018 – 12:00 pm – 5:00 pm :
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Arddangosfa sy’n rhoi cyfle i’r gynulleidfa ddarganfod y menywod a recriwtiwyd i weithio yn y ffatrïoedd arfau rhyfel yn ystod y Rhyfel Mawr.
Mynediad am ddim
Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru: Cymru dros Heddwch
12/09/2018 – 03/10/2018 – 10:00 am – 4:30 pm
Amgueddfa Abertawe
Mae’r arddangosfa hon gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru, sy’n cysylltu â chasgliadau lleol Amgueddfa Abertawe, yn archwilio sut mae effaith rhyfel wedi arwain at bobl yn chwilio am heddwch
Mynediad am ddim
Lee Karen Stow: Menywod, Rhyfel a Heddwch
19/09/2018 – 10/10/2018 – 10:00 am – 4:30 pm
Swansea Civic Centre
Mae’r newyddiadurwr ffotograffiaeth rhyngwladol, Lee Karen Stow, wedi treulio degawd yn dogfennu profiadau personol menywod o ryfel ac ymladd a menywod sy’n ymgyrchu dros heddwch, o Sierra Leone i Eryri, a nawr, Abertawe. Mae ei phortreadau pwerus a’i hanesion hudol yn fythgofiadwy.
Mynediad am ddim
Arddangosfa/Artistiaid Preswyl Coleg Celf Abertawe PCYDDS 2018/19
17/09/2018 – 05/10/2018 – 12:00 am
Swansea College of Art
Ymateb i effaith y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru.
Mynediad am ddim
Llwybr Heddwch Abertawe: Ein Holl Straeon
21/09/2018 – 12:00 am
Amgueddfa Abertawe
Ar Ddiwrnod Heddwch Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar 21 Medi, bydd y ‘Llwybr Heddwch’ hwn yn mynd â chi ar daith i glywed rhai o ‘straeon heddwch’ Abertawe, gyda’r cyfle i archwilio lleoliadau, arddangosfeydd, artistiaid a sefydliadau lleol sy’n cefnogi rhaglen Nawr yr Arwr.
Mynediad am ddim
Yinka Shonibare MBE (RA) End of Empire
21/09/2018 – 7:00 pm
Oriel Gelf Glynn Vivian
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o fod yn arddangos gwaith pwerus Yinka Shonibare sy’n archwilio themâu gwrthdaro, ymerodraeth ac ymfudiad yn y flwyddyn sy’n nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Nazma Botanica: Peace Garden
22/09/2018 – 29/09/2018 – 12:00
Swigen Greadigol
Bydd Nazma yn Creative Bubble rhwng 22 a 29 Medi i animeiddio ei waliau gyda chelf wedi’i phersonoli, a bydd cyfleoedd hefyd i gael sgyrsiau anffurfiol â’r artist yn ystod y broses.
Mynediad am ddim
Gweledigaeth Pobl Ifanc: Neges o Heddwch ac Ewyllys Da i’r Byd
22/09/2018 – 12:00 am
TCanolfan Celfyddydau Taliesin
Yn yr arddangosfa hon, ochr yn ochr â phrosiect ‘Cymru dros Heddwch’ Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, mae myfyrwyr Abertawe’n rhannu eu hymatebion artistig i negeseuon heddwch y gorffennol ac yn gofyn… Beth sy’n bwysig i chi yn y byd heddiw?
Mynediad am ddim
Gobaith ymysg yr Adfeilion
22/09/2018 – 29/09/2018 – 9:30 am – 5:00 pm
Oxfam
Wythnos o ddigwyddiadau rhyngweithiol sy’n edrych ar effaith rhyfel ac ymladd ar ddinasyddion, a dathlu’r rheiny sy’n gweithio i gael heddwch ac yn darparu lleoedd lloches yn Abertawe ac o amgylch y byd.
Mynediad am ddim
Cynefinoedd#1
22/09/2018 – 13/11/2018 – 10:00 am – 4:30 pm
National Botanic Garden of Wales, Llanarthne
Mae’r artistiaid o Abertawe, Philip Cheater, Kathryn Anne-Trussler, Amy Goldring, Tom Morris, Eifion Sven-Myer ac Ann Jordan, wedi creu cyfres o ddarnau celf sy’n ymateb i baneli Neuadd Brangwyn yn Abertawe.
Philip Cheater a Steph Mastoris: On the Brink
22/09/2018 – 29/09/2018 – 10:00 am – 5:00 pm
Volcano Theatre
Mae Philip Cheater, yr artist o Abertawe, yn gweld byd sydd ar fin wynebu digwyddiad a allai fod yn gwbl drychinebus. Wrth edrych yn ôl ar achosion o wrthdaro yn y gorffennol a’r tryblith a ddilynodd, sut y gall ein dinasoedd a llefydd eraill wneud cynnydd?
Mynediad am ddim
Rose Davies – Artist Preswyl Nawr Yr Arwr
22/09/2018 – 29/09/2018 – 10:00 am – 5:00 pm
Volcano Theatre
A hithau’n gyfarwydd â Phaneli’r Ymerodraeth ers ei dyddiau ysgol, mae Rose Davies wastad wedi gweithio â modelau yn nhraddodiad Brangwyn, a dechreuodd dynnu lluniau o Dave tua 10 mlynedd yn ôl pan oedd yn fyfyriwr ifanc yn y Fyddin Diriogaethol. Ers hynny, mae hi wedi datblygu corff mawr o waith am “Y Rhyfelwr”.
Mynediad am ddim
Rhai Pethau Rydym wedi Anghofio eu Cofio: Ymatebion cyfoes
22/09/2018 – 03/12/2018 – 10:00 am – 4:30 pm
Amgueddfa Abertawe
40 o artistiaid yn ymateb i gasgliad Amgueddfa Abertawe a gweithgareddau ar thema Nawr yr Arwr drwy greu llwybr arddangos amlgyfrwng. Bydd ymatebion cyfoes ymysg arteffactau sy’n archwilio cof, colled a chylch rhyfel a dinistr ein hymddygiad sy’n ymddangos yn ddiddiwedd.
Mynediad am ddim
Pleidlais i Ferched
22/09/2018 – 03/12/2018 – 10:00 am – 4:30 pm
Amgueddfa Abertawe
Arddangosfa a gweithdai i ddathlu canmlwyddiant ers llwyddiant rhannol ymgyrch y bleidlais i ferched ym 1918, gyda ffocws ar yr ymgyrch leol a rhai ymgyrchwyr benywaidd blaenllaw.
Mynediad am ddim
Simon Periton: Your War, My Love
22/09/2018 – 03/11/2018 – 12:00 pm – 5:00 pm
Galerie Simpson
Mae’n fraint i Galerie Simpson gefnogi “Nawr Yr Arwr” gan Marc Rees gydag arddangosfa Simon Periton, “Your War, My Love” o’r darn o 1996 o’r un enw.
Mynediad am ddim
Mark Folds: Black Spots
22/09/2018 – 4:00 pm
Cinema and Co
Gosodiad sy’n benodol i’r safle yw Black Spots, a ysbrydolwyd gan y bardd Hedd Wyn (bardd Cymraeg o’r Rhyfel Byd Cyntaf a laddwyd ar ddiwrnod cyntaf Passchendaele ym 1917), a’i gerdd ‘The Black Spot’, yn fwy penodol, sy’n cyfeirio at y rhyfel.
Mynediad am ddim
Up the Hill
Ymateb sy’n benodol i safle parc sglefrio Exist, ei leoliad a’i hanes.
Sioe gydweithredol, amlgyfrwng, sy’n dangos 10 artist lleol wrth eu gwaith. Gan ddefnyddio’r parc a’i rwystrau, maent yn creu gwaith y mae modd sglefrio arno a/neu waith dros dro. Bydd y parc yn parhau i fod ar agor i’w ddefnyddio fel parc sglefrio, felly sut mae’r artistiaid yn ymateb i hyn?… Mewn ffordd ddinistriol neu barhaol!
Mynediad am ddim
Ffilm fisol yr amgueddfa: Suffragette (12A)
23/09/2018 – 2:00 pm
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Ffilm ddrama hanesyddol Brydeinig am fudiad y swffragetiaid yn y Deyrnas Unedig. Y cynhyrchydd yw Sarah Gavron a’r awdur yw Abi Morgan.
Mynediad am ddim
Diwrnod Heddwch Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig: Beth sy’n bwysig i chi yn y byd?
24/09/2018 – 12:00 am
Canolfan Celfyddydau Taliesin
Gan nodi Diwrnod Heddwch Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar 21 Medi – a dechrau Wythnos y Glas Prifysgol Abertawe – bydd y digwyddiad hwn ar ddechrau’r arddangosfa ‘Negeseuon Heddwch Pobl Ifanc’ yn cynnig cyfle i gyfnewid syniadau am weithredoedd a gweithredaeth.
Mynediad am ddim
Starlight Order
25/09/2018 – 30/03/2019 – 10:00 am – 4:30 pm
Canolfan Dylan Thomas
I gyd-fynd â Nawr yr Arwr, bydd Canolfan Dylan Thomas yn cyflwyno arddangosfa dros dro sy’n cynnwys cerdd Gymraeg ganoloesol, Y Gododdin, gan ganolbwyntio ar ei dylanwad ar ‘In Parenthesis’, gwaith gwych David Jones.
Mynediad am ddim
Dawns De ar thema’r Rhyfel Mawr
26/09/2018 – 2:00 pm – 4:00 pm
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Te prynhawn, dawnsio, canu, cerddoriaeth a hwyl – a’r cyfan yn rhad ac am ddim.
Mynediad am ddim
Marega Palser: Prelude in Syncopated Now Time
29/09/2018 – 12:00 am
Elysium Gallery
Wedi’i ysbrydoli gan y rhestr eang o anifeiliaid, adar, ieir bach yr haf a llystyfiant a ddarluniwyd ym murluniau Brangwyn, bydd Oriel Elysium yn cynnal perfformiad/arddangosiad a fydd yn dadansoddi ac yn ail-ddychmygu golygfeydd o furluniau Brangwyn.
Mynediad am ddim
Barddoniaeth nawr!
29/09/2018 – 10:00 am – 6:00 pm
Sgwâr y Castell
Mae angen mwy o farddoniaeth – datganiad sydd wedi dod yn gyfystyr ag Abertawe drwy waith celf eiconig Jeremy Deller ar gyfer Locws Rhyngwladol y tu ôl i Ganolfan Siopa’r Cwadrant.
Mynediad am ddim
Cynefinoedd#2
29/09/2018 – 29/10/2018 – 10:00 am – 5:00 pm
Theatr y Grand Abertawe
Mae artistiaid Oriel Elysium, Philip Cheater, Kathryn Anne-Trussler, Amy Goldring, Tom Morris, Eifion Sven-Myer ac Ann Jordan, wedi creu cyfres o ddarnau celf mawr sy’n ymateb i baneli Neuadd Brangwyn yn Abertawe.
Mynediad am ddim
GRAFT: Maes llafur sy’n seiliedig ar bridd
29/09/2018 – 30/09/2018 – 11:00 am – 3:00 pm
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau/strong>
Diwrnodau agored GRAFT: maes llafur sy’n seiliedig ar bridd – prosiect gardd newydd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau; comisiwn gan Nawr yr Arwr/Now the Hero a’r amgueddfa, yn gweithio gyda’r artist Owen Griffiths.
Mynediad am ddim
Brangwyn y Printiwr
29/09/2018 – 12:00 pm
Swansea Print Workshop
Roedd Brangwyn yn arlunydd amlddisgyblaethol medrus; roedd yn ddrafftsmon, yn ysgythrwr, yn ddyfrlliwiwr ac yn ddylunydd gwydr lliw, cerameg, tecstilau a dodrefn, ymysg pethau eraill, ac roedd yn brintiwr dawnus, sef y dull y byddwn yn ei archwilio.
Mynediad am ddim
Dathlu’r Arwr
29/09/2018 – 12:00 pm – 4:00 pm
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
gwyddiad am ddim sy’n cynnwys yr Haywood Sisters.
Tales From The Treasure Box
29/09/2018 – 4:00 pm – 5:00 pm
Volcano Theatre
Mae hen focs etifeddol yn dangos negeseuon mewn pensel ar ddarnau bach o bapur a chardiau post sy’n darlunio’r tanciau a’r awyrennau cynnar, toriadau o bapurau newydd, botymau, medalau a rhubanau, ac amlen a’i hymyl mewn lliw du.
Abertawe: Nefoedd ac Uffern
29/09/2018 – 8:00 pm
Creature Sound, Swansea
Bydd ‘Nefoedd ac Uffern’ yn brofiad diwylliannol amlddisgyblaeth yn defnyddio pob twll a chornel o leoliad cerddoriaeth diweddaraf a mwyaf ffasiynol Abertawe