MOSCOW DRUG CLUB… (enwyd ar ôl y gân!)
Lle cerddorol hynod lle mae elfennau o gabare Berlin, naws Ladinaidd, sachbib Ffrengig ac adrodd straeon yn cwrdd….
Dychmygwch eich bod wedi cael sawl diod feddwol ac yn igam-ogamu fraich ym mraich i mewn i dywyllwch stryd goblog yn nwyrain Ewrop, gan hanner cwympo i mewn i far lle mae Django Reinhardt a Tom Waits yn cael sesiwn jamio ar ôl oriau gyda’r sipsiwn lleol.
Mae Moscow Drug Club yn cyflwyno profiad cerddorol personol a chyfareddol drwy gyfuno’u deunydd gwreiddiol â chaneuon gan Jaques Brel, Tom Waits, Leonard Cohen, Eartha Kitt a’u tebyg.
Mae Cyngor Abertawe’n falch o gyflwyno Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe mewn partneriaeth â Chlwb Jazz Abertawe.
Gweld digwyddiadau Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe eraill yma