fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Ers i daith ddiwethaf Miles orffen yn The London Palladium yn 2017, mae e’ wedi bod yn The Full Monty ar Disney Plus, The Durrells a Why Didn’t They Ask Evans? ar ITV, yn ogystal â llu o benodau o Frankie Boyle’s New World Order a Have I Got News For You. Mae e’ wedi gwneud rhaglen radio arobryn ac wedi cyhoeddi nofel. Oni bai am COVID, byddai wedi chwarae rôl arweiniol gyda’r RSC. O wel. Er hynny, mae wedi perfformio mewn drama yn y West End ac wedi chwarae rhan Ymerawdwr Awstria ac Ewrop mewn ffilm gan Ridley Scott.

Eto, un diwrnod heulog yng nghanol hyn i gyd, dioddefodd drawiad ar yr ymennydd. O ganlyniad, darganfuwyd bod ganddo diwmor maint tomato bach, ac roedd angen dybryd iddo gael niwrolawdriniaeth frys. Mae’n amlwg, nid yw’n dymuno gwneud môr a mynydd o’r peth, ond mae’r profiad wedi’i adael â stori i’w hadrodd a rhai pethau yr hoffai eu rhannu â’r ystafell. Felly dyna’r union beth y mae’n ei wneud yn ei sioe newydd On I Bang – stori am syndod, ofn, lwc, cariad ac ymarferwyr meddygol cymwys.

Archebwch Docynnau 

Dyddiad
11 MAW 2024
Lleoliad
Theatr Y Grand Abertawe
Price
26.00