Mae oratorio sanctaidd Handel, y Meseia, yn ffefryn tymhorol ac arweinir perfformiad eleni gan Gôr Ffilharmonig Abertawe, sydd wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd Abertawe am dros 60 o flynyddoedd. Mae’r unawdwyr Ellen Williams, Sioned Terry, Robert Lewis a Steffan Lloyd Owen yn ymuno â’r côr, a bydd y Sinffonieta Brydeinig yn cyfeilio iddynt. Arweinir y côr gan Jonathan Rogers. Gyda chytganau ysbrydoledig a gwefreiddiol fel ‘Hallelujah’ a ‘For Unto Us a Child is Born’, ni ddylech golli’r gyngerdd hon.
Sylwer; ni chedwir seddi ar gyfer y digwyddiad hwn.
Tocynnau: £20.00, Myfyrwyr £12.00