‘Efallai ar ôl i mi fynd, bydd rhywun yn ysgrifennu’r gwir amdanaf’, ysgrifennodd Eluned Phillips at ffrind.
Eluned Phillips (1914-2009), a aned ar yr un diwrnod â Dylan Thomas, oedd yr unig fardd benywaidd o Gymru i ennill y goron ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fel Dylan, enillodd glod yn America. Roedd hefyd yn sgriptiwr, yn libretydd, yn storïwr ac yn gyfaill i Augustus John, Picasso ac Edith Piaf, ymhlith eraill. Ymunwch â ni i glywed Menna Elfyn yn trafod ei bywgraffiad newydd, Optimist Absoliwt: Cofiant Eluned Phillips, yn y digwyddiad hwn a gynhelir drwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf.
Pris Llawn £5 Consesiynau £3.50 PTL Abertawe £1.60