Mae’r sefydliad elusennol, Indian Society of Southwest Wales, wedi bod yn trefnu Mela Indiaidd Abertawe hwn bob dwy flynedd yn Neuadd Brangwyn Abertawe.
Mae croeso i chi ddod i gefnogi ac i fwynhau amrywiaeth o ddigwyddiadau adloniant, sy’n amrywio o ddawnswyr profiadol i berfformiadau gan blant. Dewch i flasu’r amrywiaeth hyfryd o fwydydd Indiaidd sydd ar werth, gan gynnwys bwyd stryd llysieuol ac anllysieuol. Dewch i weithdai amrywiol sy’n gysylltiedig â diwylliant a thraddodiadau Indiaidd. Gallwch ddysgu rhai o ystumiau sylfaenol ioga neu fwynhau addurno’ch dwylo drwy eu lliwio â henna. Mae gennym hefyd amrywiaeth o stondinau sy’n arddangos yr hyn sy’n newydd ym myd ffasiwn a chelf a chrefft. Bydd taflen wybodaeth Mela sydd am ddim ac sy’n cynnwys detholiad o erthyglau a rysáit draddodiadol, yn cael ei dosbarthu o ddesg y dderbynfa ar ddiwrnod y digwyddiad.
11:00am i 5:00pm
Pris tocyn: £4 y tocyn. Mynediad am ddim i blant dan 5 oed. Gellir rhagarchebu tocyn ar gyfer y digwyddiad o’n gwefan: https://www.indiansociety.co.uk
Gweld digwyddiadau eraill yn Neuadd Brangwyn yma
11 Mai 2024
11:00am - 17:00pm