fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Ymunwch ag Elysium ar gyfer eu Harddangosfa Materion Materol a Sgyrsiau o 29 Mawrth tan 7 Mai

Mae Materion Materol, wedi’i churadu gan yr artist Sarah Tombs, yn dod â gwaith pedwar cerflunydd Prydeinig cyfoes ynghyd.

Mae’r arddangosfa’n archwilio’r berthynas rhwng proses a pherthnasedd, sut mae’r cerflunydd, trwy arbrofi a thrin, yn gallu cynhyrchu gwrthrychau cerfluniol y mae eu cynnwys a’u cymhellion yn hygyrch i gynulleidfa.

Mae ymgysylltu â deunyddiau a phrosesau ‘gwneud’ yn ddadl arbennig o berthnasol gydag argaeledd cynyddol technoleg ddigidol, Gweithgynhyrchu â Chymorth Cyfrifiadur a chydag ymddangosiad AI yn bygwth gwneud ymdrech artistig ddynol yn ddiangen.

Mae Materion Materol yn ymchwilio i ffyrdd y mae’r cerflunwyr hyn yn cyfuno defnyddiau a thechnegau anhraddodiadol a thraddodiadol a sut maent yn delio ag elfennau o adeiladwaith, arwyneb a lliw. Mae’r cerflunwyr sy’n arddangos wedi sefydlu ymarferion ers sawl degawd ac mae’r arddangosfa hon yn tynnu ar gysylltiadau rhwng eu dulliau. Mae dod at eu gilydd yn gyfle unigryw i archwilio’r rhagosodiad cerfluniol craidd hwn.

Rhagor o wybodaeth 

 

Llinell amser yr arddangosfa

Rhagolwg: Dydd Gwener Mawrth 29ain 7yh.

Arddangosfa’n parhau tan Ddydd Sadwrn Mai 11eg. Oriau agored: Dydd Mercher – Sad 11yb – 7yh

 

Sgyrsiau artistiaid ar-lein:

  • Mawrth 23ain Ebrill 7yh – Lee Grandjean

Mae gwaith Grandjean yn ymdrin â ffurf ac elfennau darluniadol. Wrth galon ei ymarfer mae cerfio pren, sy’n cael ei ddadadeiladu ac yna’i ail-weithio, gan greu cyfuniadau o ffurfiau wedi’u gwneud o goncrit, rhwyll a phlastig. Rhoddir lliw ar yr arwyneb sy’n atgyfnerthu’r cerfluniau.

‘I mi, mae’n rhaid gwthio deunyddiau y tu hwnt i’w nodweddion llythrennol, nid harddwch yw’r nod, ond egni a phresenoldeb cerfluniol dilys a chredadwy lle mae ffurf, a chynnwys yn un’.

Mae ei gorff newydd o waith Arwyr yn ymateb i fywyd blaenorol Elysium fel clwb nos. Mae Grandjean wedi creu cyfres o ‘ddathlwyr’ sy’n rhyngweithio â phensaernïaeth yr oriel.

‘Wrth ymateb i’r her o ddod â chorff o waith i Oriel Elysium, cefais fy swyno gan yr enw a’r ffordd yr agorodd ynof ail-gyfaredd â’r mythau Groegaidd a ddarllenodd fy mam i mi pan oeddwn yn ifanc. Y mythau hynny wrth gwrs sy’n sail i gymaint o gelf Gorllewin Ewrop. Penderfynais gymryd rhai cymeriadau o fythau Groegaidd ymlaen a’u defnyddio’n ddiamwys fel testun ar gyfer cyfres o gerfluniau. Mae mythau bob amser yn drosiadau wrth gwrs, sy’n amlygu gwendidau dynol sy’n sail i unrhyw orchest.’

 

  • Mawrth 30ain Ebrill 7yh – Sokari Douglas Camp

Mae Douglas Camp yn trawsnewid drymiau olew ac yn llunio dur i mewn i gerfluniau ffigurol sydd yn aml wedi’i wreiddio yn niwylliant Affricanaidd lle ganwyd yr artist. Mae ei gwaith yn hynod o liwgar, ac yn defnyddio elfennau patrwm, tecstilau ac addurniadol. Yn hytrach na dylunio a thorri â laser mae Camp yn ‘arlunio’ patrymau â llaw gan ddefnyddio chwythlamp i dorri i mewn i’r llen ddur.

Disgrifia ei gwaith fel ‘y llawenydd o wneud’, fodd bynnag mae ei gwaith hefyd yn wleidyddol ac wedi’i wreiddio yn niwylliant Affricanaidd; mae ei defnydd o ddrymiau olew i greu harddwch yn ddatganiad ymwybodol ac ingol o gynhyrchiad olew Delta Niger ac mae’n un o’r lleoedd mwyaf llygredig yn y byd.

 

  • Mawth Mai 7fed 7yh – Marie-Therese Ross

Mae cerfluniau Marie-Therese Ross wedi’u gwneud o gyfuniad o rannau pren wedi’u lamineiddio. Mae’n defnyddio gwrthrychau a ddarganfuwyd sy’n cael eu hintegreiddio a’u thrawsffurfio i mewn i’r gweithiau gyda phren sydd wedi’i gerfio a beintio- mae lliw yn ychwanegu haen arall o fynegiant ac ystyr i’r cyfanwaith. Mae màs y pren yn adleisio’r llinellau wedi’u arlunio a’u torri allan a geir yn ei darluniau a’i gludweithiau, gan fenthyg ei hun yn dda i’w phroses o weithio.

Ar gyfer yr arddangosfa hon mae Ross wedi canolbwyntio ar farddoniaeth a bywyd Dylan Thomas. Yn arbennig, mae ‘A Winter’s Tale’ a ‘Lie Still, Sleep Becalmed’ wedi ysbrydoli’r artist, gan ddarganfod profiadau a rennir gyda’r bardd, ac archwilio’r rhain yn ei gweithiau newydd. Bydd y gosodiad yn archwilio marwoldeb ac yn ymgorffori gyfeiliant.

 

Gweld digwyddiadau eraill yn Elysium yma

07 Mai 2024

Materion Materol

19:00pm