fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Date/Time:
Date(s) – 17/05/2018
7:00 pm – 10:00 pm

Mae Marti Pellow yn dod â’i daith The Private Collection i Abertawe ar 17 Mai 2018. Mae’r daith yn dathlu 30 mlynedd yn y diwydiant, gan gynnwys caneuon a gyrhaeddodd rhif un a chaneuon poblogaidd o’i albymau niferus, fel artist unigol a chyda Wet Wet Wet.

Nid yw Marti Pellow’n ganwr-gyfansoddwr am ddoe na heddiw. Mae’n ceisio anelu at yfory. Dyma’r rheswm pam mae ganddo hirhoedledd yn ei yrfa a’i fod yn parhau i herio’i hun; ar lwyfan Broadway, yn cyfansoddi sioe gerdd newydd, yn creu recordiau newydd, yn perfformio yn y West End neu’n teithio – mae pob elfen ynghlwm iddo, a’r gerddoriaeth yn ganolog i’r cyfan.

Ar ôl llwyddiant ei daith ddiwethaf, lluniodd Marti y syniad newydd am gyngerdd, y sioe The Private Collection. Ar ôl ei chyflwyno ledled y DU mewn sioeau hynod lwyddiannus a werthwyd pob tocyn, penderfynodd Marti droi’r sioe’n daith ledled y DU yn 2018.

Prynu tocynnau yma

Dyddiad
17 Mai 2017
Lleoliad
The Brangwyn