Dyddiad / Amser: 12 Ebrill 2018
Lleoliadau: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe, Canol Dinas Abertawe a Gwaith Copr Hafod-Morfa
Gwybodaeth: Mae cyfle i ymwelwyr gyfarfod y Man Engine – y glöwr mecanyddol sy’n symud a stemio – wrth iddo ymweld â’r ddinas a arferai gael ei galw’n ‘Copperopolis’.
Gall ymwelwyr wylio wrth i’r pyped enfawr ‘gasglu’ mwyn copr o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a’i orymdeithio drwy Ganol Dinas Abertawe cyn ei gyflwyno i John Henry Vivian yng Ngwaith Copr Hafod-Morfa, ble cynhelir sioe dân a golau ddramatig gyda’r nos.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Amser: 11am – 1.15pm
Pris: AM DDIM
Canol Dinas Abertawe
Amser: 2.15pm – 3pm
Pris: AM DDIM
Gwaith Copr Hafod-Morfa
Amser: 6.30pm – 9.30pm
Archebu: Mae tocynnau cynnar yn costio £3.00 i oedolion a £2.50 i blant (Dim ond ar gael tan 28 Chwefror, a bydd prisiau’n codi ar ôl hynny).
Mae’r digwyddiad tu allan i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac yng Nghanol y Ddinas am ddim ac nid oes angen tocyn. Gellir archebu tocynnau ar gyfer diweddglo’r daith yng Ngwaith Copr Hafod-Morfa yn http://www.themanengine.co.uk/