Y Nadolig hwn, bydd Maggie’s yn cynnal eu Extravaganza Nadolig cyntaf yn Arena Abertawe!
Bydd y sioe yn cynnwys talent leol orau Abertawe, gan gynnwys y canwr-gyfansoddwr o Gymru Steve Balsamo (Jesus Christ Superstar, The Storys), Ria Jones (Cats, Les Miserables), y cyfansoddwr a’r cerddor chwedlonol o Gymru, Mal Pope (Awdur y sioe gerdd Amazing Grace, cyflwynydd BBC Radio Wales), y pianydd anhygoel Rob Marshall a’r dalent operatig Ros Evans.
Mae Maggie’s yn cynnig y gefnogaeth orau bosibl am ddim i unrhyw un sydd â chanser. Mae Maggie’s yno i unrhyw un sydd â chanser a’u teulu a’u ffrindiau, pa fath bynnag o ganser, a pha bynnag gam maen nhw ynddo. Nid oes terfyn amser ar y cymorth y maent yn ei gynnig, byddant yno cyhyd ag y bydd ei angen.