fbpx

23 Mawrth – 6 Mai yn ystod oriau agor (dydd Mercher – dydd Sul ac yn ystod gwyliau banc, 10am – 4.30pm)

Dewch draw i Ganolfan Dylan Thomas dros Wyliau’r Pasg i ddarganfod ein llwybr newydd sbon ‘Hoff Losin Dylan’!

Roedd Dylan yn arfer dwlu ar fwyta losin yn y bath ac ysgrifennodd am rai o’i ffefrynnau yn ei straeon a’i ddarllediadau. Roedd e’ hefyd yn arfer prynu’i losin yn siop losin Mrs Ferguson cyn mynd i weld ffilm yn sinema Uplands.

Gan gymryd ysbrydoliaeth o hyn, rydym wedi cuddio jariau bach sy’n cynrychioli’r losin yn yr arddangosfa Dwlu ar y Geiriau – allwch chi ddod o hyd iddyn nhw i gyd? Mae’n hwyl i bawb yn y teulu, waeth beth yw’ch oed, ac mae gwobr os dewch chi o hyd i bob jar.

Am ddim.

Dyddiad
23 MAW - 06 Mai
Lleoliad
Dylan Thomas Centre
Ffôn
01792463980
E-bost
dylanthomas.lit@swansea.gov.uk
Visit website