Julia Davis, Alexander Duncan, Shiraz Bayjoo, Jaanika Peerna, Sylvia Safdie, Christian Sardet a’r Macronauts
20 Ionawr – 11 Mawrth 2018
Ystafell 3
Rhagarddangosfa 19 Ionawr 2018
18:30-21:00
Perfformiad am 18:30 gan Jaanika Peerna
Mae’r arddangosfa Mae gan y Dyfroedd hyn Straeon i’w Hadrodd yn cyflwyno gwaith chwe artist rhyngwladol, gan adlewyrchu eu profiad a’u perthynas â dyfroedd cefnforol. Mae gwaith Shiraz Bayjoo, Julia Davis a Sylvia Safdie yn tarddu o draethlinau Tasmania, Cyprus a Mawrisiws, lleoedd sydd wedi’u gwladychu, eu pysgota’n ormodol a’u llygru. Bydd Jaanika Peerna, Alexander Duncan a’r partneriaid sy’n cyfuno celf â gwyddoniaeth, Christian Sardet a’r Macronauts, yn archwilio cyrff a bodau’r môr fel ffenomen a chynefin, er mwyn ein hannog i sylwi ar y ddau’n rhyngweithio.
Mae’r arddangosfa’n archwilio sut mae ein gweithredoedd yn effeithio ar gefnforoedd a’u hecosystemau a’u hinsawdd.
Wedi’i churadu gan Celina Jeffrey
Arddangosfa ‘Arfordir Diflannol’