fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

£5 oddi pris Adar Cynnar ar gyfer tocynnau pris uchaf a cyn diwedd Medi.
Prynnwch am dau sioe a chael 20% i ffwrdd.
Dim ond un cynnig ar unrhyw un adeg.

Mae Senbla, drwy drefniant ag Opera International, yn cyflwyno Cynhyrchiad Ellen Kent.

Mae’r Opera arobryn hon yn dychwelyd mewn cynhyrchiad newydd gyda setiau anhygoel gan gynnwys gardd Japaneaidd drawiadol a dillad gwych gan gynnwys cimonos priodas hynafol dilys.

Madama Butterfly gan Puccini yw un o’r operâu mwyaf poblogaidd yn y byd. Mae’n adrodd hanes torcalonnus merch hardd o Siapan sy’n syrthio mewn cariad â swyddog yn llynges America – a’r canlyniadau’n ddramatig. Ymysg yr uchafbwyntiau y mae’r Corws Mwmian melodaidd, yr aria deimladwy One Fine Day a’r deuawd serch bythgofiadwy.

Cenir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau Saesneg

*Gall y cast newid.

“Dyma iâr fach yr haf i’w thrysori” Manchester Evening News

Dyddiad
07 MAW 2020
Lleoliad
Swansea Grand Theatre