Mae Senbla yn cyflwyno cynhyrchiad Ellen Kent arobryn Opera International sy’n cynnwys Theatr Opera a Bale Genedlaethol Wcráin, Kyiv, gydag unawdwyr rhyngwladol, corws clodwiw a cherddorfa lawn.
Yn ôl oherwydd galw aruthrol gan y cyhoedd, mae’r opera arobryn yn dychwelyd gyda llwyfannau cain sy’n cynnwys gardd Japaneaidd drawiadol a gwisgoedd bendigedig, gan gynnwys cimonos priodas hynafol o Japan.
Madama Butterfly gan Puccini yw un o’r operâu mwyaf poblogaidd yn y byd. Mae’n adrodd hanes torcalonnus merch hardd o Japan sy’n syrthio mewn cariad ag is-gapten yn llynges America – ac mae’r canlyniadau’n ddramatig.
Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys y ‘Corws Mwmian’ melodaidd, yr aria deimladwy ‘Un Diwrnod Braf’ a’r ddeuawd serch fythgofiadwy’.
Fe’i cenir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau Saesneg. Sylwer nad oes modd gweld is-deitlau’n glir o rai seddi. Gwiriwch wrth brynu’ch tocynnau. Mae’r holl wybodaeth yn gywir wrth gael ei chyhoeddi. *Gall y cast newid.