Croeso nôl i Elena Dee, y soprano wych o Gorea a’r soprano ryngwladol enwog, Alyona Kistenyova*.
Mae’r Opera arobryn hon yn dychwelyd mewn cynhyrchiad newydd gyda setiau anhygoel gan gynnwys gardd Japaneaidd drawiadol a dillad gwych gan gynnwys cimonos priodas hynafol o Japan.
Mae Madama Butterfly gan Puccini, un operâu mwyaf poblogaidd y byd, yn adrodd hanes torcalonnus merch hardd o Siapan sy’n syrthio mewn cariad â swyddog yn llynges America – a’r canlyniadau’n ddramatig.
Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys y Corws Mwmian melodaidd, yr aria deimladwy One Fine Day a’r ddeuawd serch fythgofiadwy’.
Cenir yn Eidaleg gydag uwchdeitlau Saesneg
*Gall y cast newid.
Sylwer nad oes modd gweld is-deitlau’n glir o rai seddi penodol. Gwiriwch wrth brynu’ch tocynnau. Mae’r holl wybodaeth yn gywir wrth gael ei chyhoeddi.