fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Ymunwch â’ch hoff ffrindiau ffeind wrth iddynt ddianc o’u cartref yn Sŵ Central Park Efrog Newydd a chael eu hunain ar daith annisgwyl i fyd gwirion y Brenin Julian ar ynys Madagascar.

 

Alex y llew yw brenin y jyngl trefol, prif atyniad Sŵ Central Park yn Efrog Newydd. Mae ef a’i ffrindiau gorau – Marty y sebra, Melman y jiráff a Gloria yr hipo – wedi treulio’u holl fywydau mewn caethiwed moethus gyda’r cyhoedd yn eu hedmygu a chyda phrydau bwyd cyson yn cael eu darparu iddynt. Ond nid yw Marty yn fodlon ar bethau, mae’n rhy chwilfrydig ac mae e’n dianc – gyda chymorth rhai pengwiniaid rhyfeddol – er mwyn archwilio’r byd.

Ymunwch ag Alex, Marty, Melman, Gloria a’r pengwiniaid cynllwyngar hynod ddoniol wrth iddynt ymddangos ar y llwyfan mewn antur oes gerddorol. Gyda chymeriadau rhyfedd, anturiaethau di-ri a sgôr fachog, ni fydd gennych unrhyw ddewis ond ymuno yn y gân “Move It, Move It!”

Archebwch Docynnau

Dyddiad
29 CHWE - 02 MAW
Lleoliad
Theatr Y Grand Abertawe
Price
18.00