O’r Guggenheim yn Sbaen i Dŷ Opera Sydney yn Awstralia, mae cerfluniau enfawr a rhyngweithiol Architects of Air a’r cynllunydd Alan Parkinson, y gellid cerdded tu fewn iddynt, wedi syfrdanu cynulleidfaoedd ledled y byd.
Mae Timisien, sy’n gofadail i harddwch goleuni a lliw, yn wledd i’r synhwyrau. Cewch eich cipio i fyd arall o gromenni fel ogofeydd, twneli a phodiau, sydd mor fawr â hanner cae rygbi, gan greu ymdeimlad o ryfeddod a hudoliaeth i bob oedran.
Gwahoddir ymwelwyr i grwydro, eistedd a mwynhau naws y gwagle. Mae llawer o bobl yn cael eu trawsnewid ganddo, gan ei ddisgrifio fel cerdded drwy ffenestr liw, bod mewn paentiad byw, neu hyd yn oed mewn llong ofod.
Argymhellir archebu o flaen llaw!