Mae Luke wedi casglu dros 3.5 miliwn o gefnogwyr ar gyfer ei fideos fel digrifwr llwyfan, sydd wedi ymledu’n wyllt ac sy’n aml yn dangos rhyngweithiadau beiddgar a chwim â’r dorf.
Mae Luke hefyd yn adnabyddus am gyd-gyflwyno podlediad Luke and Meg, podlediad BLT ac am ei amryfal raglenni comedi arbennig sy’n ymddangos ar YouTube ac Amazon Prime. Nawr mae e’n dod â’i sioe gomedi ‘Happy Hour’ i leoliadau ar draws y wlad.
“Enw’r sioe yn llythrennol yw Happy Hour, a sai’n gwybod, bydd yn hwyl. Prynwch docyn” – dyma oedd ymateb Luke Kidgell pan ofynnwyd iddo beth y dylid ei ysgrifennu yn y disgrifiad o’r sioe.
Rydych wedi’i weld ar y rhyngrwyd, nawr mae’n bryd ei weld e’ yn y cnawd, mae’n sioe na ddylid ei cholli!