Mae’r EP yn ymdrin â phynciau sydd yn agos iawn at galon Lowri – o drafod ei mam a sut mae perthynas rhwng y ddwy yn esblygu dros amser, y sefyllfa ail gartrefi yn ei thref enedigol, i ddim sefyll yn llonydd a chymryd cyfleoedd a ddaw.
Wedi’i disgrifio gan Bob Harris o BBC Radio 2 fel “un o’i hoff artistiaid”, mae Lowri wedi’i bendithio â llais sy’n llawn o bŵer emosiynol eang, gyda’i chaneuon yn cymryd eu lliwiau cerddorol o balet eang sy’n cynnwys Americana, Gwerin, Gwlad a Blŵs. Mae wedi teithio o amgylch yr UDA ac Ewrop, wedi cael ei chynnwys ar restrau chwarae radio’r BBC, ac wedi perfformio mewn gwyliau fel Cambridge Folk, Underneath the Stars, Celtic Connections, Sesiwn Fawr Dolgellau, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, a Gŵyl y Gelli.
Fe fydd Lowri ar daith ym mis Ebrill a Mai ac yn perfformio gyda’i thriawd.