Locomotif Stêm Penydarren
12pm-3.30pm
06/05/17
Digwyddiad AM DDIM!
Dewch i weld ein copi o locomotif stêm cynta’r byd wrth i ni danio ei hinjan a’i gyrru lawr y cledrau.
Ar 21 Chwefror 1804, teithiodd y locomotif hwn ar hyd y dramffordd 9 milltir o Benydarren i Abercynon, gan dynnu llwyth o ddeng tunnell o haearn a tua saithdeg o bobl a lwyddodd i fachu taith answyddogol!
Dyma siwrnai gyntaf locomotif stêm ar gledrau i’w chofnodi. Byddai’n sbarduno chwyldro byd-eang yn y byd trafnidiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Dibynnu ar y tywydd
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: