Casgliad ffotograffig Elizabeth Maria ‘Lizzie’ East (1882-1952)
Rhoddwyd y casgliad diddorol hwn i Amgueddfa Abertawe gan ei wyres, Alberta Stevens.
Roedd Lizzie yn ffotograffydd adnabyddus yn ardal Treforys, gan ffynnu o 1900 hyd at ganol y 1930au. Cyn i’r casgliad hwn cael ei roi i’r amgueddfa, tybiwyd mai prin iawn oedd ei lluniau a oedd wedi goroesi.
Roedd gan Lizzie stiwdio yn ei chartref ar gornel Stryd Caemawr a Stryd Clyndu, Treforys, o’r enw Stiwdio Part Lan. Ei thad oedd yn berchen ar y stiwdio cyn hithau, a’i alwedigaeth yntau’n cael ei nodi ar ei thystysgrif briodas ym 1903 fel ‘Ffotograffydd Meistr’.
Roedd y mwyafrif o ffotograffwyr proffesiynol ar ddechrau’r 1900s yn ddynion a phrin iawn oedd y ffotograffwyr benywaidd, os oeddent yn hysbys o gwbl, ac roedd Elizabeth Maria East yn eu plith.
Ar agor ddydd Mawrth i ddydd Sul, ac ar wyliau banc, rhwng 10am a 5pm. Am ddim.
 :
Amgueddfa Abertawe: