fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Bydd cyfres gwyliau retro mwyaf eiconig y DU, Let’s Rock, yn dod i Abertawe am y tro cyntaf yr haf hwn! Cynhelir digwyddiad cyntaf Let’s Rock Abertawe yn lleoliad prydferth Parc Singleton ddydd Sadwrn 20 Gorffennaf, a’r prif westai fydd sêr y byd reggae, UB40 gydag Ali Campbell fel rhan o restr o artistiaid o ansawdd, sydd hefyd yn cynnwys Level 42, The Boomtown Rats, Go West, Jason Donovan, Nick Kershaw, The Christians, Jaki Graham, Musical Youth a llawer mwy. Mae prisiau tocynnau’n rhoi gwerth gwych am arian ac yn dechrau o £35.

Mae nifer cyfyngedig o docynnau i blant 3-12 oed ar gael yn uniongyrchol o www.letsrock80s.com.

Hygyrchedd:

I gyflwyno cais am docyn cynorthwyydd personol, dilynwch y cyfarwyddiadau isod:

Prynwch docyn mynediad cyffredinol safonol yn https://letsrock80s.com/

E-bostiwch dystiolaeth o’ch archeb A chopi o’ch llythyr dyfarniad Lwfans Byw i’r Anabl (neu dystiolaeth gyfatebol) i customerservices@gigantic.com. Sicrhewch nad yw unrhyw atodiadau’n fwy na maint ffeil 1MB a’ch bod yn cynnwys eich cyfeiriad post llawn yn eich e-bost.

Anfonwch ymholiadau ynghylch hygyrchedd i customerservices@gigantic.com.

MWYAFSWM O 2 BLENTYN I BOB OEDOLYN 18+ OED. RHAID BOD GAN BOB PLENTYN 3-12 OED DOCYN. NID OES ANGEN TOCYN PLENTYN AR BLANT O DAN 3 OED.
NID YW TOCYNNAU PLANT YN DDILYS YN YR ARDAL VIP.
NI ELLIR TROSGLWYDDO UNRHYW DOCYNNAU, GAN GYNNWYS TOCYNNAU TOILEDAU MOETHUS. NID YW TOCYNNAU TOILEDAU MOETHUS YN RHOI MYNEDIAD I’R DIGWYDDIAD.

“Rydyn ni wir yn edrych ymlaen at ein perfformiad cyntaf yn nigwyddiad Let’s Rock yr haf hwn. Rydyn ni wedi clywed pethau da am egni’r cynulleidfaoedd yn y gwyliau hyn, ac rydyn ni’n mwynhau manteisio ar hyn. Heulwen, gwefrau gwych a cherddoriaeth reggae… noson berffaith o haf! Cariad mawr xx.” – Ali Campbell, llais UB40

“Y peth gorau am Let’s Rock yw bod mewn cae yn rhywle gyda phobl o’r un meddylfryd sy’n dwlu ar gerddoriaeth. Bydd hyn yn wych!” – Mark King o Level 42

“Rwy’n edrych ymlaen at berfformio yn nigwyddiad Let’s Rock 2024. Mae Let’s Rock yn arwydd i mi bod yr haf wedi cyrraedd ac rwy’n edrych ymlaen yn barod at y diwrnodau hirach a chynhesach. Rwy’n barod amdani!” – Jason Donovan

Meddai UK Live Ltd., trefnwyr Let’s Rock: “Rydym yn gyffrous iawn i ddod â Let’s Rock i Abertawe am y tro cyntaf yr haf hwn! Mae cynifer o eiconau’r byd pop yn perfformio, ac rydym yn credu bod Let’s Rock yn cynnig diwrnod allan i’r holl deulu sy’n cynnig gwerth gwych am arian – ac mae bob tro’n llawn hwyl! Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i leoliad prydferth Parc Singleton ar 20 Gorffennaf!”

 Mae’r ŵyl retro Prydeinig mwyaf adnabyddus a phoblogaidd, Let’s Rock, yn cynnig hwyl hiraethus ddi-stop wrth i gerddorion enwog berfformio caneuon poblogaidd i gynulleidfa â phobl o bob oedran, y mae nifer ohonynt yn dod yn gwisgo ffasiwn gorau’r 80au.

Archebwch tocynnau

Dyddiad
20 GOR 2024
Lleoliad
Singleton Park
Price
47.25
Archebwch docynnau