fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Yn syth o’r West End – Reggae ar gyfer y Byd

Pan fyddwch chi’n meddwl am reggae, un enw’n unig sy’n dod i’ch meddwl. Yr arwr ei hun, Bob Marley.

Mae Legend – the Music of Bob Marley yn noson arbennig sy’n dathlu’r eicon cerddorol hwn mewn strafagansa sioe lwyfan wych. Bydd cast hynod dalentog yn cyfuno’i lais swynol ac unigryw â’i ddawn gerddorol er mwyn perfformio’r clasuron, gan gynnwys Could You Be Loved, Is This Love, One Love, No Woman No Cry, Three Little Birds, Jammin’, Buffalo Soldier, Stir It Up, Get Up Stand Up, Exodus, Waiting in Vain, Satisfy My Soul, Iron Lion Zion, I Shot the Sheriffa llawer o ganeuon reggae poblogaidd eraill.

Yn syth o Theatr Adelphi Llundain, lle gwerthwyd pob tocyn, cyflwynir sioe ddwyawr sy’n arddangos hud cerddoriaeth Marley. Mae’n cyfleu carisma a diwylliant arwr a fu farw’n rhy gynnar.

Sioe deyrnged yw hon ac nid yw’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag unrhyw artistiaid gwreiddiol, ystadau, cwmnïau rheoli neu sioeau tebyg.

Archebwch Docynnau

Dyddiad
25 HYD 2024
Lleoliad
Theatr Y Grand Abertawe
Price
34.00
Archebwch docynnau