Bydd y digwyddiad mynediad am ddim hwn yn cael ei gynnal y noson cyn y brif gystadleuaeth a bydd yn cynnwys set unigol arbennig gan enillydd 2021 Morgan Elwy yn ogystal â setiau gan Mali Hâf, Lily Maya, a DJ Sgilti.
Galwch heibio rhwng 18:00-20:00 i fwynhau’r gorau o gerddoriaeth gyfoes Gymreig ac i ddysgu mwy am yr holl ddigwyddiadau gwych sy’n digwydd ar draws Abertawe dros y penwythnos.