fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Sioe gerdd gyffrous newydd yw La Bamba! sy’n cynnwys coreograffi gwych gan y seren Strictly Come Dancing a’r pencampwr Eidalaidd Lladin, Graziano Di Prima.

Fel ei harwr, Ritchie Valens, mae gan Sofia gerddoriaeth yn ei gwaed. Ei breuddwyd yw dilyn yng nghamau Ritchie. I gymysgu’r gerddoriaeth o’i gwreiddiau â’r gerddoriaeth yn ei chalon ac uno cymuned sydd wedi’i rhannu. Wrth iddi fynd ati i gwblhau’r daith nad oedd Ritchie wedi gallu ei chwblhau, bydd Sofia’n darganfod er mai talent sy’n eich gwneud chi’n enwog, gall ffawd eich gwneud chi’n arwr.

Wedi’i hysbrydoli gan fywyd ac etifeddiaeth anhygoel yr arwr Roc a Rôl, Ritchie Valens, ac yn cynnwys rhai o’r caneuon enwocaf erioed, mae’r sioe gerdd newydd arbennigLa Bamba!, sy’n cymysgu Lladin, R&B a roc a phop clasurol, yn adrodd stori galonogol am ferch ifanc â llais mawr, breuddwydion mawr a chalon hyd yn oed yn fwy. Stori am angerdd a balchder a’r darganfyddiad bod pob taith yn dechrau gydag un cam.

La Bamba! yw’r ffiesta arbennig newydd ar gyfer 2023.

Dyddiad
05-09 MED
Lleoliad
Swansea Grand Theatre
Price
27.00