Yn 2020, newidiodd y byd am byth, wrth i Kieran Hodgson symud i’r Alban. Nawr mae’n teithio o amgylch y Deyrnas Unedig i ddweud wrthych sut mae’r cyfan yn mynd. Iddo ef, a’r Albanwyr.
Efallai y byddwch yn cofio Kieran fel y dyn hwnnw o Two Doors Down y BBC (Kieran sy’n chwarae rhan Gordon), fideos enwog ‘Bad TV Impressions’ o The Crown a Happy Valley, a thair rhaglen arbennig ar Channel 4. Os nad ydych chi’n ei gofio, peidiwch â phoeni. Mae gan bob un ohonom fywydau prysur.