fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Ymunwch ag Oriel Gelf Glynn Vivian ar Fae Abertawe, Canolfan Ddinesig rhwng 2pm a 3pm ddydd Sul 5 Mai 2019 i fod yn rhan o arddangosfa’r artist Katie Paterson, First There is a Mountain.

Digwyddiad celfwaith cyfranogol ledled y DU yw First There is a Mountain, ac fe’i cynhelir yn ystod Amser Haf Prydain 2019, gan ddechrau yng Nghaint ar 31 Mawrth ac yn dod i ben yn Essex ar 27 Hydref.

Bydd y prosiect yn ymweld ag Abertawe ddydd Sul 5 Mai, dros benwythnos gŵyl banc y Sulgwyn, a hwn fydd y pedwerydd cyrchfan mewn cyfres o 25 o leoliadau arfordirol ar hyd y DU.

Ym mhob lleoliad, bydd cyfranogwyr yn defnyddio set o ‘fwcedi a rhawiau’ arbennig ar ffurf mynyddoedd y byd i droi traethau’n filoedd o gadwyni o fynyddoedd bychain a wnaed o dywod.

Mae pob set yn cynnwys model wrth raddfa o un o bum mynydd enwocaf y byd: Mae Mynydd Kilimanjaro (Affrica), Mynydd Shasta (UDA), Mynydd Fuji (Asia), Stromboli (Ewrop) ac Uluru (Ynysoedd y De) wedi’u nythu gyda’i gilydd.

Bydd 50 o setiau o fwcedi a rhawiau ar gael i’w defnyddio ar y diwrnod ac mae cyfranogiad unigryw’r cyhoedd ym mhob lleoliad yn hanfodol ar gyfer datblygiad y celfwaith a’r profiad cyfan.

Mae 25 o ddarnau o ysgrifennu wedi’u comisiynu i gyd-fynd â thaith y celfwaith, un ar gyfer pob lleoliad. Bydd y testunau’n ffurfio antholeg ddigidol, gan ddod â gwaith ysgrifennu gan awduron, beirdd, daearegwyr, gwyddonwyr y ddaear, ecolegwyr ac ysgrifenwyr celf clodwiw ynghyd.

Dewiswyd yr ysgrifenwraig gelf a anwyd yn Abertawe, Lizzie Lloyd, i ysgrifennu testun ar gyfer Abertawe, a gaiff ei ddarllen yn uchel ar ddechrau’r digwyddiad.

Bydd yr oriel yn chwilio am gyfranogwyr, preswylwyr ac ymwelwyr ag Abertawe i gymryd rhan mewn nifer o ffyrdd; fel gwirfoddolwr ac arweinydd, fel adeiladwr cadwyni o fynyddoedd neu fel gwyliwr yn y digwyddiad hollol unigryw a thrawiadol hwn.

Bydd mwy o wybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan ar gael yn fuan.

 

Meddai Katie Paterson,

 “O blentyndod cynnar, rydym yn deall bod tywod yn nodi amser. Mae ‘First There is a Mountain’ yn adeiladu ar y cydsyniad hwn, gan ein gwneud yn ymwybodol o erydiad creigiau mynyddoedd dros filenia a chreigiau sy’n symud ar draws y ddaear wrth i’r cyfandiroedd ddatblygu, gan ffurfio olion tywod unigryw ar hyd ein harfordir modern. Mae’r celfwaith yn gwahodd pobl i arafu ac ystyried cydgysylltiad y byd drwy gyfleu ei fawredd ar raddfa fach. Gan gysylltu’r ynysfor ag un ffynhonnell o ddŵr, un llanw, un darn o dywod – gan gludo mynyddoedd o dywod ar draws amser. Yr anarferol yn bodoli mewn pethau arferol, ym mhob man.”

Dewisodd Paterson y mynyddoedd gan ddefnyddio data oddi wrth Genhadaeth Topograffi Radar Gwennol NASA a’r Asiantaeth Cudd-wybodaeth Geo-ofodol Genedlaethol. Gwnaed y bwcedi tywod o startsh planhigion wedi’u heplesu a gellir eu bio-gompostio’n llwyr ac, ar ddiwedd y prosiect, cânt eu compostio a’u hamsugno’n ôl i’r amgylchedd naturiol.

 

 

Dyddiad
05 Mai 2019
Lleoliad
Glynn Vivian Art Gallery